Dydd Sadwrn, 28 Mehefin
2008
Thema: Gwledydd y Byd
Mae diwrnod y carnifal yn un o uchafbwyntiau bywyd ein pentref. Mae’n cael ei drefnu gan bwyllgor bach sy’n cynnwys aelodau C.R.A.M.C. (Creigiau Recreation Area Management Committee), Creigiau 23 a phentrefwyr eraill. Daw’r gymuned ynghyd am ddiwrnod o hwyl a sbri, gan godi arian ar gyfer achosion da a thalu am gynnal cyfleusterau hamdden lleol.
Wythnos y carnifal 2008
Gwnewch nodyn o’r dyddiad yn eich dyddiadur - dyma brif achlysur y flwyddyn pan unir ein cymuned ac ni ddylid ei golli. Er mwyn ei wneud mor llwyddiannus â llynedd mae Pwyllgor y Carnifal yn gobeithio y medrwch helpu ac ymuno yn y canlynol:
Ø Yr Orymdaith. Thema eleni ydy “Gwledydd y Byd” – fe fedrwch ddefnyddio eich dychymyg i greu fflôtiau lliwgar iawn. Rydym ni’n gobeithio fod pob mudiad yn y pentref yn mynd i gymryd rhan - ar lori neu ar droed – i wneud yr orymdaith yn un arbennig. Dylai fod yn achlusur gwefreiddiol!
Ø Gall unrhyw blentyn gymryd rhan yn y gystadleuaeth Gwisg Ffansi. Fe fydd yna wobrau i’r unigolyn a’r grŵp mwyaf trawiadol ar ddiwrnod y Carnifal.
Ø Dechreuwch ymarfer ar gyfer y Ras Hwyl a gynhelir am 10.30 y.b. ar ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2008 yn y Cae Chwarae! Mae yna gategoriau ar gyfer y feithrin, babanod, plant iau, plant yn eu harddegau ac oedolion - o un i dri lap o’r cae. Dewch i gefnogi os nad ydych yn ddigon dewr i gymryd rhan! (Gobeithir gweld ychydig mwy o dadau’n rhedeg eleni!!)
Ø Disgo’r Carnifal - fe’i gynhelir ar nos Lun 23 Mehefin 2008 o 6.30 – 8.00 y.h. yn Neuadd yr Eglwys Creigiau pan y tynnir enwau Brenin a Brenhines y Carnifal ynghyd â’r gweision o het.
Ø Bydd Cwis y Carnifal a gynhelir eto eleni yng Ngwesty Creigiau ar Nos Fawrth 24 Mehefin 2008 am 8.00 p.m.
Ø Noson Caws a Gwin y Clwb Criced: Nos Wener 27 Mehefin 2008 am 7.30 p.m. yn Neuadd yr Eglwys Creigiau
ØDiwrnod y carnifal: Mae gorymdaith y floats yn gadael llain Parc y Fro oddeutu 1.00pm ac yn cyrraedd y maes erbyn tua 2.00pm. Mae yna rywbeth i bawb i bob oedran - cystadleuaeth gwisg ffansi, gemau di-rif, stondinau’n cynnig pob math o nwyddau fel planhigion, llyfrau, cardiau, teisennau a llawer iawn mwy. Mae’n ddiwrnod hir, felly mi fydd angen lluniaeth ar bawb ac mae yna ddiodydd o bob math, bwyd melys a bwyd barbiciw.
Mae mynediad i oedolion drwy brynu rhaglen. Maen nhw ar gael yn yr wythnosau cyn y diwrnod mawr, neu wrth gyrraedd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i gwmnïau lleol sy’n hysbysebu yn y rhaglen - cofiwch eu cefnogi!
Fe fydd gwirfoddolwyr yn dod o amgylch o ddrws i ddrws i werthu rhaglenni’r Carnifal ar ddechrau Mehefin er mwyn eich atgoffa o’r holl bethau a fydd yn digwydd ar y diwrnod.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld!
Pwyllgor Carnifal Creigiau
Carnifal Creigiau - diwrnod i’r brenin!